|
Mae newid ar droed ym Mhontypridd wrth i gyfres o brosiectau dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf barhau i adfywio’r dref farchnad enwog yma. Mae adfywio Pontypridd yn dal i fod yn flaenoriaeth i’r awdurdod lleol, ac mae wedi ymroi i weddnewid y dref yn ganolfan siopa bwysig ar gyfer y dyfodol. Mae cynllun traffig newydd ar gyfer canol y dref yn atal cerbydau rhag defnyddio Taff Street ar ei adegau prysuraf yn denu rhagor o siopwyr selog sy’n mwynhau bwrlwm y stryd brysur. Os bydd modd sicrhau grant, bydd y Cyngor hefyd yn ailwampio’r brif stryd siopa yn y dref yn gyfangwbl. Bydd hyn yn gweddnewid canol Pontypridd er gwell.
Cafodd maes parcio newydd St Catherine’s Corner, sydd werth miliynau, ei adeiladu fel rhan o adeilad nodweddiadol Tŷ Pennant. Mae hyn yn dangos bod gan fusnesau yr hyder i fuddsoddi yn nyfodol y dref. Gall pobl sy’n gyrru i’r dref hefyd barcio yn un o feysydd parcio’r Cyngor yng nghanol y dref. Yn ogystal, mae cysylltiadau bws a thrên rheolaidd â’r dref yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i gyrraedd Pontypridd ar unrhyw adeg o’r dydd.
Mae gwaith celf mawr newydd o gwmpas y dref a chynlluniau goleuo ar gyfer dau o nodweddion enwocaf Pontypridd hefyd yn dangos ein bod ni’n benderfynol o greu delwedd newydd ar gyfer y dref.
Mae’r amrywiaeth o siopau’n gwerthu pob math o nwyddau, ac mae digon o fwytai, tafarndai a chaffis o’r radd flaenaf yn y dref i ofalu am siopwyr blinedig.
Mae gan Bontypridd hanes diwylliannol cyfoethog tu hwnt, wedi’r cyfan, yma y cafodd yr Anthem Genedlaethol ei hysgrifennu. Mae’r traddodiad wedi mynd o nerth i nerth a, diolch i leoedd fel Canolfan Gelf y Miwni, mae’r dref yn dal i ddenu cynulleidfaoedd o bob cwr o’r byd. Un o brif atyniadau Ponty yw Parc Coffa Ynysangharad, ar lannau afon enwog y Taf. Y parc yw un o brif lwyfannau’r wlad, ac mae wedi denu llu o berfformwyr rhyngwladol fel y Sugababes, Rhydian a’r sêr lleol, The Lost Prophets a Syr Tom Jones.
Ar y wefan yma, fe gewch chi’r holl wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o adfywio Pontypridd, yn ogystal â manylion am yr achlysuron a’r gweithgareddau y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn eu trefnu i ddenu rhagor o bobl i’r dref boblogaidd.
|