| Llwyddiant hyd yn hyn |
|
Mae cynllun traffig newydd ar gyfer canol y dref, datblygiad gwerth miliynau Tŷ Pennant, cynlluniau mawr sydd wedi’u cyflwyno ar gyfer Canolfan Sipoa Taff Vale, gwaith celf gwych, byrddau gwybodaeth, a chynlluniau goleuo yn dangos fod canol tref Pontypridd yn dal i fod yn flaenoriaeth bwysig i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae’r swyddfa a’r maes parcio nodweddiadol newydd, Tŷ Pennant, yn dangos yn glir bod posibiliadau buddsoddi mawr ar gael ym Mhontypridd. Mae cynllun traffig newydd wedi creu awyrgylch newydd sbon i siopwyr ac ymwelwyr â’r dref gan fod dim cerbydau yno yn ystod yr adegau prysuraf. Mae cais cynllunio mawr wedi cael ei gyflwyno ar gyfer Canolfan Siopa Taff Vale hefyd er mwyn adfywio pen gogleddol y dref yn gyfangwbl. Bydd ymwelwyr yn sylwi ar yr arwyddion newydd sydd wedi’i gosod drwy’r dref yn ogystal â mapiau cyfeirio ac arwyddion i gerddwyr. Cofiwch ymweld â’r wefan yma’n rheolaidd i weld y diweddaraf am y datblygiadau hyd yn hyn.
|




