| Cynllun y Placiau Glas |
|
Am bron i ddwy flynedd, mae Gwasanaeth Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi bod yn cydweithio’n agos â gwahanol gyrff gwirfoddol ac unigolion i benderfynu ar 30 o safleoedd ar draws y sir sydd heb eu cydnabod hyd yn hyn am eu cefndir hanesyddol. Diolch i £49,200 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, mae’r prosiect wedi ceisio pennu pobl, achlysuron ac adeiladau sydd â lle arbennig yn ein hanes, er mwyn gosod placiau glas i gofio hyn. Cafodd cyfres o erthyglau eu cyhoeddi yn y wasg leol a chenedlaethol, a bu tipyn o son am y peth ar y teledu a’r radio cenedlaethol er mwyn annog pobl i bleidleisio dros eu hoff safleoedd. Yn dilyn ymgynghoriad â chynrychiolwyr o’r gymuned ac o gymdeithasau hanes, cafodd archwiliad ei gynnal i gofnodi pob cofeb, cerflun a phlac oedd eisoes yn bod yn Rhondda Cynon Taf. Doedd pobl, lleoedd neu achlysuron oedd eisoes wedi’u cofnodi â phlac ddim yn gymwys ar gyfer cynllun y Placiau Glas, nac ychwaith unrhyw un a fu farw llai na 10 mlynedd yn ôl. Daeth mwy na 180 o enwebiadau i law, a bu cynrychiolwyr o gymdeithasau hanes pob ardal yn cwrdd â swyddogion y Cyngor i fynd i’r afael â’r gwaith anodd o benderfynu pa leoedd fyddai’n derbyn y placiau glas. Gan fod ein sir wedi bod yn safle i gymaint o adeiladau a digwyddiadau hanesyddol, roedd y cyfnod ymgynghori yn un maith. Ymhlith yr enwebiadau i’w hystyried oedd streiciau, terfysgoedd, man geni enwogion o fyd cerdd, chwaraeon sinema, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth a hyd yn oed amlosgiad chwyldroadol.
Bydd digonedd o Blaciau Glas yn cael eu gosod ym Mhontypridd ac mae llawer eisoes wedi’u dadorchuddio yn nhref y sir. O fyd y gân a diwylliant, mae’r safleoedd llwyddiannus yn cynnwys man geni’r canwr opera enwog Syr Geraint Evans yn William Street, Cilfynydd. O fyd chwaraeon, mae plac i gofio’r bocsiwr o Bontypridd, Freddie Welsh wedi cael ei osod ble’r oedd yn arfer hyfforddi, gyferbyn â’r Orsaf Drenau. Cafodd y plac ei ddadorchuddio gan un eraill o feibion enwog y dref, y pencampwr bocsio Dai Dower. Bydd plac glas hefyd yn cael ei osod ar Dai Crwn enwog Pontypridd i gofio’r siartydd, llawfeddyg, derwydd ac arloeswr amlosgi, Dr William Price. Mae plac arall wedi cael ei osod ar safle Clwb ac Institiwt Gelliwastad i gofio’r cyn-berchennog Dr Richard Griffiths a adeiladodd ffordd y tram oedd yn sail i ddechrau masnach lo Cwm Rhondda. Bydd adeiladau hanesyddol hefyd yn derbyn Placiau Glas, gan gynnwys Crochendy Nantgarw a’r Navigation Inn yn Abercynon lle’r oedd swyddfeydd Cwmni Glamorganshire Canal. Meddai’r Cyng. Robert Bevan, Aelod o’r Cabinet ar faterion Diwylliant a Hamdden: “Dyma gynllun cyffrous fydd yn codi proffil y sir yn lleol a thu hwnt. “Mae cyrff cymunedol, a chymdeithasau hanes yn arbennig, wedi bod o gymorth enfawr wrth gynnig cyngor ar deilyngdod pob enwebiad. Ar y cyd, rydyn ni wedi llwyddo i benderfynu ar 30 ym mhob cwr o’r sir i dderbyn Plac Glas. “Rydyn ni hefyd wedi datblygu Llwybr Placiau Glas i ddangos cyfoeth ein hanes ni yma – bydd yn syfrdanu ymwelwyr, ac mae’n bosibl y bydd llawer o drigolion y sir hefyd yn cael sioc o weld pwysigrwydd yr adeiladau yn eu hardal. “Mae gyda ni dreftadaeth arbennig iawn yma yn Rhondda Cynon Taf ac rydyn ni’n falch iawn ohoni. Dyma’n cyfle ni i ddangos i bawb sy’n byw yn y sir, yn gweithio yma, neu’n ymweld â hi bod gyda ni hanes o bobl, lleoedd a digwyddiadau enwog wedi yma, a’n bod ni’n dathlu hynny.” |





Yma yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni’n falch iawn o’n treftadaeth – ein pobl, lleoedd, achlysuron, cerddoriaeth a diwylliant byd-enwog – ac rydyn ni am ei dathlu gyda’n Llwybr Treftadaeth Placiau Glas newydd.