| Achlysuron |
|
Mae gan Bontypridd bron i ddau gan mlynedd o hanes diwylliannol cyfoethog, ac er i amser wibio heibio, mae lle arbennig i gelfyddyd yn y dref enwog yma o hyd. Yma y cyfansoddodd tad a mab yr Anthem Genedlaethol, “Hen Wlad Fy Nhadau”. Hefyd, ymhlith glowyr ifanc Pontypridd oedd cyfansoddwr, awdur yr hyn a elwir yn anthem rygbi Cymru, “Cwm Rhondda”. Mae’r dôn yn rhannu’r un enw â chapel yn y dref. Ac mae pawb yn gwybod mai yma ym Mhonty y ganwyd y seren fyd-enwog, Syr Tom Jones.
Wrth wraidd y diwylliant yma mae Canolfan Gelf y Miwni sy’n cynnig adloniant gydol y flwyddyn gan gynnwys cerddoriaeth, dawns, comedi, cynyrchiadau llwyfan, ffilmiau a nosweithiau bandiau lleol. Hefyd ym Mhontypridd, mae Parc Coffa prydferth Ynysangharad wedi hen ennill ei phlwy fel lleoliad arbennig ar gyfer cyngherddau awyr agored mawr, boed y rheini’n gyngherddau roc neu glasurol. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn trefnu digonedd o weithgareddau ac achlysuron drwy gydol y flwyddyn, ac mae degau o filoedd o bobl yn heidio yma i Bonty i’w mwynhau, ddydd a nos. |




