News image

Adfywio

Does dim cyfle cystal wedi bod gan dref Pontypridd i lwyddo ...

READ MORE...
News image

Achlysuron

Mae gan Bontypridd bron i ddau gan mlynedd o hanes diwylliannol cyfoethog, ...

READ MORE...
News image

Llwyddiant h

Mae newid mawr ar droed ym Mhontypridd wrth i’r gyfres o brosiectau ...

READ MORE...
Cerflun Porth

gateway-sculpture-smallMae cynlluniau uchelgeisiol i adeiladu cerflun mawr ger y porth i Bontypridd wedi cyrraedd camau olaf y broses.

Cafodd Andy Hazell, cerflunydd o Drefyclo, Powys, ei ddewis o 77 o artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol i ddylunio cerflun eiconig ar gyfer y gylchfan i’r A470 ym Mhontypridd.

Mae ei gerflun, ‘Wheel of Drams’, wedi datblygu’n dirnod poblogaidd yn Hengoed ac mae ei gerflun enfawr ‘Thumbprint’ tu allan i bencadlys yr heddlu yn Abertawe yn denu tipyn o sylw.

Mae’r prosiect diweddaraf, sy’n cael ei reoli gan Celf Gyhoeddus Cymru, yn dangos unwaith eto bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i ymroi i adfywio’r dref farchnad enwog yma.

Fel rhan o’r prosiect celf gyhoeddus, cynhaliodd yr artist poblogaidd gyfres o weithdai gyda grwpiau o bobl ifainc sy’n rhan o Wasanaethau’r Garfan Gwaith Ieuenctid yn y Maes a hefyd grŵp sy’n ymwneud â Gwasanaeth Troseddau’r Ifainc.

Roedd y gweithdai, a gynhaliwyd yn YMCA Pontypridd yn cynnwys cynlluniau siapio tun lle'r oedd gofyn iddyn nhw siapio’u syniadau eu hunain am nodweddion eiconig tref fwyaf y sir.

Roedd y gweithdai’n canolbwyntio ar elfennau sydd i’w gweld yn amlwg yn y dyluniadau fel Pont William Edwards, y Glamorganshire Canal, Rheilffordd Cwm Taf a gwaith cadwyni Brown Lenox.

Yn dilyn misoedd o waith ymchwil a gwaith paratoi, mae Andy Hazell bron â gorffen ei gerflun eiconig newydd.

Cafodd y comisiwn ei godi gydag arian o wahanol ffynonellau gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Celf a Busnes, Cyngor Tref Pontypridd, Cwmni Marchnad Pontypridd a Chyngor Rhondda Cynon Taf.

Meddai’r Cyng. Paul Cannon, Aelod o’r Cabinet ar faterion Datblygu’r Economi a Thai: “Cafodd Andy Hazell ei gomisiynu i greu dyluniad ar gyfer cerflun porth eiconig newydd. Mae’r cysylltiad rhwng nodweddion ffisegol enwog â’u trefi a’u dinasoedd yn bwysig iawn wrth geisio hyrwyddo hunaniaeth y lle, ac yn aml bydd yn ffordd dda o ddenu pobl i’r ardal."

gateway-sculpture-large

 

 

 

 

Cysylltwch â ni

Strategaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Y Pafiliynau

Parc Hen Lofa’r Cambrian

Cwm Clydach

Tonypandy

CF40 2XX

 

Ebost:  PublicRelationsandStrategy@rctcbc.gov.uk