| Cynllun Goleuo Tirnodau |
|
Cafodd y pontydd eiconig Pont William Edward a Thraphont Brunel eu dewis fel dau dirnod arbennig yn y dref i gael eu gweddnewid. Mae’r cynllun yn cael ei roi ar waith er mwyn annog pobl i deimlo’n fwy balch o’u tref ac i dynnu sylw at y profiad unigryw sydd ar gael i unrhyw un sydd am ymweld â’r dref. Comisiynwyd yr artist Lulu Quinn i ddylunio’r Cynllun Goleuo Cofebion sydd wedi cael ei ganmol gan drigolion ac ymwelwyr at ei gilydd. Mae Lulu Quinn yn gweithio gyda cherfluniau, fideo a gosodiadau ac mae hi wedi cynhyrchu nifer o weithiau ar gyfer orielau a mannau cyhoeddus ar draws Prydain ac ar draws y byd. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu drwy sawl ffynhonnell gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Celfyddydau Cymru, Croeso Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Tref Pontypridd a chwmni Macob. Ar ei drydydd ymgais, llwyddodd William Edwards, oedd yn enedigol o Eglwysilan, i orffen ei bont eiconig ar draws yr afon Taf ym 1756. Ar un adeg, dyma oedd y bont un rhychwant hiraf yn y byd, a bellach mae’n cael ei ystyried fel nodwedd fwyaf cyfarwydd Pontypridd. Adeiladodd y peiriannydd Fictoraidd enwog Isambard Kingdom Brunel adran o’r draphont drenau garreg dros yr Afon Rhondda ym 1837 er mwyn sicrhau cysylltiad rhwng Merthyr a Chaerdydd. Heddiw, mae’n arglwyddiaethu dros yr olygfa o Bontypridd tuag at Gwm Rhondda. Meddai’r Cyng. Paul Cannon, Aelod o’r Cabinet ar faterion Datblygu’r Economi a Thai: “Bwriad y prosiect yw arddangos y gorchestion arbennig ym maes dylunio sy’n rhan annatod o’n hanes. Rydyn ni yn dathlu hanes Pontypridd, wrth wneud yn siŵr y bydd dyfodol y dref yn ddisglair drwy ddenu hyd yn oed rhagor o ymwelwyr yma.”
|





Mae dau o dirnodau mwyaf enwog Pontypridd wedi cael eu goleuo fel rhan o’r rhaglen i adfywio canol tref Pontypridd.