| Ffordd o fyw |
|
Yn draddodiadol, Pontypridd oedd tref farchnad cymoedd y De, a hyd yn oed heddiw, mae siopwyr yn heidio i’r dref bob dydd Mercher a dydd Sadwrn i godi bargen neu ddwy yn y farchnad dan do a’r farchnad awyr agored. Wrth i’r blynyddoedd basio, mae llawer o’r siopau mwy adnabyddus hefyd wedi agor eu drysau ar y brif stryd siopa, Taff Street, ac maen nhw’n cynnig nwyddau o’r radd flaenaf am bris cystadleuol. Ond mae llawer mwy i Bontypridd na siopa’n unig. Dros y blynyddoedd diwethaf mae mwy a mwy o fwytai a bariau o ansawdd uchel wedi agor eu drysau a chroesawu cwsmeriaid i’r dref gyda’r nos. Mae Pontypridd yn parhau i ddatblygu ei enw da am fwytai a bariau wrth i ystod ehangach o leoliadau ymgartrefu yn y dref. Felly beth am drefnu diwrnod cyfan o hwyl ym Mhontypridd? Cewch fwynhau adloniant yn y Parc, siopa’n hamddenol yn rhai o’r siopau unigryw a mwynhau pryd bwyd gyda’r nos yn un o’r bwytai arbennig. Mae pob dim ar gael ym Mhontypridd i drigolion ac ymwelwyr at ei gilydd. |





Siopa yw un o’r prif resymau dros boblogrwydd Pontypridd – o ran trigolion y sir ac ymwelwyr. Mae hyn wedi’i adlewyrchu yn y cynlluniau mawr i adfywio’r dref.