News image

Adfywio

Does dim cyfle cystal wedi bod gan dref Pontypridd i lwyddo ...

READ MORE...
News image

Achlysuron

Mae gan Bontypridd bron i ddau gan mlynedd o hanes diwylliannol cyfoethog, ...

READ MORE...
News image

Llwyddiant h

Mae newid mawr ar droed ym Mhontypridd wrth i’r gyfres o brosiectau ...

READ MORE...
Tŷ Pennant

pennant-house-smallMae Tŷ Pennant yn enghraifft o ymroddiad Cyngor Rhondda Cynon Taf i adfywio’r dref farchnad a’i throi’n un o brif gyrchfannau siopa De Cymru.

Y cynllun £10 miliwn yw rhan gyntaf cynllun gwella y Cyngor a Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Pontypridd a bydd yn hwb i weddill gwaith adfywio’r dref.

Mae’r adeilad, yn St Catherine’s Corner, yn dirnod gwerth ei gweld. Y cwmni adeiladu Macob oedd yn gyfrifol am yr adeiladu, ac mae’n cynnwys maes parcio sydd â 320 o leoedd parcio a swyddfa fawr ar y lloriau uwch.

Unwaith eto, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dangos ei hyder yn y dref a’i ymroddiad i greu dyfodol economaidd cadarn i Bontypridd drwy symud dau wasanaeth allweddol i’r swyddfeydd newydd.

Mae Gwasanaeth Datblygu ac Adfywio a Gwasanaethau i Blant ar dri llawr uchaf yr adeilad. Mae hyn yn fwy na 12,000 troedfedd sgwâr o swyddfa ac mae lle i 124 aelod o staff.

Mae’r adeilad newydd yn cynnig mynediad a chyfleusterau gwell i’r cyhoedd am ei fod yn agos at ffordd dda, a chysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus am ei fod yn agos at ffordd dda, a chysylltiadau trên a bws â gweddill y sir.

Mae hyn yn arbennig o bwysig i Gwasanaethau i Blant, nawr mae gan gynhalwyr maeth mynediad gwell at y staff a’r rheolwyr.

Bydd Cartrefi RhCT hefyd yn symud i Dŷ Pennant yn fuan, gan ddod â 120 o weithwyr ychwanegol i Bontypridd.

Meddai’r Cyng. Paul Cannon, Aelod o’r Cabinet ar faterion Datblygu’r Economi a Thai: “Mae posibiliadau diri ar gyfer Pontypridd, ac rydyn ni fel Cyngor am roi’r dref yn ôl ar y map, nid yn unig fel tref y sir, ond hefyd fel cyrchfan siopa pwysig ar gyfer Cymoedd y De.

“Mae Tŷ Pennant yn chwarae rôl bwysig yn hyn o beth ac mae'n cynnig cyfleusterau parcio pwrpasol yn agos at ganol y dref. Mae hefyd yn dirnod mawreddog wrth fynediad tref Pontypridd ac yn swyddfa o ansawdd uchel. Yn wir, dyma ddechrau dyfodol disglair ar gyfer y dref farchnad enwog yma.”

pennant-house-large

 


 

Cysylltwch â ni

Strategaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Y Pafiliynau

Parc Hen Lofa’r Cambrian

Cwm Clydach

Tonypandy

CF40 2XX

 

Ebost:  PublicRelationsandStrategy@rctcbc.gov.uk