News image

Adfywio

Does dim cyfle cystal wedi bod gan dref Pontypridd i lwyddo ...

READ MORE...
News image

Achlysuron

Mae gan Bontypridd bron i ddau gan mlynedd o hanes diwylliannol cyfoethog, ...

READ MORE...
News image

Llwyddiant h

Mae newid mawr ar droed ym Mhontypridd wrth i’r gyfres o brosiectau ...

READ MORE...
Gwaith Celf Cyhoeddus

public-art-smallFel rhan o’r rhaglen adfywio mawr ym Mhontypridd, ar gyffordd Taff Street a Crossbrook Street fe welwch chi waith celf mawr a dau fwa wedi’i hysbrydoli gan y dolenni oedd yn cael eu creu yng ngwaith cadwyni enwog Brown Lenox.

Mae’r prosiect diweddaraf, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Cyngor yn cynnwys rhoi wyneb newydd i’r ffordd a’r pafinau, a gosod patrwm cain o gerrig sy’n gweddu’r dirwedd hanesyddol.

Mae hefyd yn rhoi lle ychwanegol i eistedd, biniau sbwriel newydd a standiau beics o flaen y gwaith celf.

Cafodd yr artist Howard Bowcott ei gomisiynu i ddylunio’r ddau gerflun siâp bwa. Mae’r cerfluniau syfrdanol wedi’u gwneud o ddur gwrthstaen ac maen nhw’n eistedd ar seiliau carreg sydd wedi’u cerfio o’r garreg pennant orau i ddathlu hanes y chwarel cyfagos yng Nghraig yr Hesg.

Mae’r bwâu wedi’u cerfio o ddur gwrthstaen gloyw ac mae geiriau i ysbrydoli wedi’u cerfio ar yr wyneb sgleiniog. Hefyd mae gwydr sydd wedi’i oleuo yn rhan o’r cerflun hefyd ac at ei gilydd mae’r holl elfennau yma’n creu effaith syfrdanol.

Cynhaliodd Menna Elfyn, y bardd a’r dramodydd sy’n teithio’r byd ar gyfer darlleniadau a gwaith teledu a theatr, ddosbarthiadau gyda phlant ysgol Pontypridd i’w hysbrydoli nhw i ystyried pa eiriau yr hoffen nhw eu gweld ar y gwaith celf newydd.

Edrychodd rhai ar safle’r dref a’r dirwedd o’i chwmpas, tra’r oedd eraill yn ystyried ei phwysigrwydd o ran hanes yr ardal fel canolbwynt Rheilffordd Cwm Taf, ac wrth gwrs, roedd rhaid son am y dref fel man geni’r Anthem Genedlaethol.

Mae’r bwâu dwyieithog yn cynnwys y brawddegau yma: “Bwa i Bobl a Bro, Links to Unite Valleys” a “Song’s Heart Beating Feet On Earth, Gwlad Gwlad Enwog o Fri”.

public-art-large

 

 

 

 

Cysylltwch â ni

Strategaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Y Pafiliynau

Parc Hen Lofa’r Cambrian

Cwm Clydach

Tonypandy

CF40 2XX

 

Ebost:  PublicRelationsandStrategy@rctcbc.gov.uk