News image

Adfywio

Does dim cyfle cystal wedi bod gan dref Pontypridd i lwyddo ...

READ MORE...
News image

Achlysuron

Mae gan Bontypridd bron i ddau gan mlynedd o hanes diwylliannol cyfoethog, ...

READ MORE...
News image

Llwyddiant h

Mae newid mawr ar droed ym Mhontypridd wrth i’r gyfres o brosiectau ...

READ MORE...
Gwella Taff Street

Mae prosiect mawr a chyffrous i ailwampio prif stryd siopa Pontypridd yn barod i’w rhoi ar waith gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Gan ddibynnu ar arian o Raglen Gydgyfeirio Ewrop, mae Cynllun Gwella Taff Street yn brosiect o’r radd flaenaf i newid stryd canol y dref brysur yn gyfangwbl.

Gyda rhaglen adeiladu dwy flynedd a hanner yn ei lle, fe all y gwaith ddechrau mor gynnar â Gwanwyn 2010. Mae disgwyl i’r broses o benodi ymgymerwr gychwyn ym mis Medi 2009.

Ar y cyd â phartner-asiantaethau, grwpiau cyswllt a thrwy gyfathrebu â pherchnogion siop yn y dref, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhagweld y bydd y cynllun £10 miliwn yma’n gweddnewid edrychiad yr ardal siopa’n llwyr.

Mae’r gwaith arfaethedig newydd yn cynnwys pafinau newydd, ail-wynebu’r ffordd, dodrefn stryd, arwyddion, goleuadau a gwaith celf.

Bydd lled y ffordd yn cael ei leihau i 3.5 metr i hwyluso siwrnai’r gwasanaeth bws rheolaidd a’r gyrwyr fydd yn defnyddio’r ffordd y tu allan i oriau craidd y drefn rheoli traffig. Does dim hawl gan gerbydau fynd i mewn i’r dref rhwng 11am a 4pm.

Bydd cyfres o “ardaloedd allweddol” hefyd yn cael ei chreu, yn enwedig wrth gyffordd Taff Street a Mill Street, tra bydd ardal y Ffynnon yn cael ei ddylunio ar yr un lefel â’r ffordd a’r llwybr troed.

Bydd y Cyngor a’i ymgymerwyr yn wynebu nifer o heriau wrth roi’r cynllun ar waith oherwydd natur seilwaith Pontypridd, ond unwaith y bydd y prosiect wedi’i gwblhau, bydd yn rhan bwysig iawn o’r gwaith o adfywio canol y dref.

 

Cysylltwch â ni

Strategaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Y Pafiliynau

Parc Hen Lofa’r Cambrian

Cwm Clydach

Tonypandy

CF40 2XX

 

Ebost:  PublicRelationsandStrategy@rctcbc.gov.uk