News image

Adfywio

Does dim cyfle cystal wedi bod gan dref Pontypridd i lwyddo ...

READ MORE...
News image

Achlysuron

Mae gan Bontypridd bron i ddau gan mlynedd o hanes diwylliannol cyfoethog, ...

READ MORE...
News image

Llwyddiant h

Mae newid mawr ar droed ym Mhontypridd wrth i’r gyfres o brosiectau ...

READ MORE...
Cyflwyno Cynlluniau Taff Vale

Yn dilyn arddangosfa gyhoeddus lwyddiannus dros ben yng nghanol tref Pontypridd, mae perchnogion Canolfan Siopa Taff Vale wedi cyflwyno cais cynllunio ar gyfer eu cynlluniau newydd.

Byddai’r cynigion datblygu newydd yn rhoi canolfan siopa modern i Bontypridd yng nghanol y dref. Mae’r cynigion yn cynnwys defnyddio deunyddiau modern o ansawdd uchel gan gynnwys paneli gwydr llawn, canopïau gwydr, a nodweddion dylunio metel, modern. Gan fod y ganolfan o fewn ffiniau ardal gadwraeth, y cynnig yw defnyddio cerrig ffug mewn lleoliadau strategol i ategu’r hen adeiladau hanesyddol arbennig sydd yn y dre’n barod.

Mae’r datblygwyr hefyd yn cynnig gwella ac gosod wyneb newydd i’r ffordd fach sy’n arwain at y maes parcio tanddaearol, yn ogystal â gwella’r maes parcio tanddaearol. Mae’r cynlluniau cyfredol yn dangos y bydd gan y maes parcio ar ei newydd wedd oleuadau gwell, system awyru gwell, rhagor o fannau parcio i bobl anabl a llwybrau mwy diogel i gerddwyr.

love-ponty-latest-press-large

Mae rhaid cytuno ar y cynlluniau yn gyntaf, ac fe allan nhw newid o ganlyniad i’r broses gynllunio statudol, ond mae’r datblygwyr yn hyderus y byddan nhw, o gael caniatâd, yn cychwyn ar y gwaith dymchwel erbyn diwedd eleni, ac y byddai’r gwaith adeiladu wedi’i orffen erbyn diwedd 2010.

Mae’r datblygwyr yn trafod gyda thenantiaid newydd posibl ar gyfer y cynllun, ond maen nhw’n dal i fod yn hyderus y bydd cyfleuster siopa newydd sbon, o gael caniatad cynllunio, ar agor i’r cyhoedd erbyn Nadolig y flwyddyn nesaf yng nghanol Pontypridd.

Mae modd gweld y cynlluniau ac maen nhw wedi cael eu trafod yn helaeth yn nau gyfarfod diwethaf Cylch Trafod Canol Tref Pontypridd. Os hoffech chi weld y cynlluniau, gwnewch apwyntiad yn y Ganolfan ibobun yn Nhŷ Sardis, Pontypridd.

Meddai’r Cyng. Paul Cannon, Aelod o’r Cabinet ar faterion Datblygu’r Economi a Thai: “Mae llawer o waith eisoes wedi cael ei wneud i adfywio Pontypridd a rhoi hwb i ganol y dref. Mae hyn wedi cynnwys arwyddion newydd, cael gwared ar draffig, swyddfeydd newydd a maes parcio newydd St Catherine’s Corner.

“Mae’r datblygiad yma yng nghrombil y broses gynllunio ar hyn o bryd ac mae’n rhaid cael caniatad ar ei gyfer. Mae’r Cyngor wedi ymroi i’r gwaith parhaus o adfywio Pontypridd ac rydyn ni’n cefnogi prosiectau fydd o fudd i’r dref.”

 

Cysylltwch â ni

Strategaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Y Pafiliynau

Parc Hen Lofa’r Cambrian

Cwm Clydach

Tonypandy

CF40 2XX

 

Ebost:  PublicRelationsandStrategy@rctcbc.gov.uk